BanglaCymru - Rhif Comisiwn Elusennau: 1127532 - www.banglacymru.org.uk
Yma, fe welwch gofnod a rhai o'r hanesion sy'n gysylltiedig â gwaith BanglaCymru ym Mangladesh o flwyddyn i flwyddyn. Bydd y cofnod hwn hefyd yn rhan o adroddiad blynyddol y cadeirydd i aelodau'r elusen.
Treuliais dair wythnos ar brofiad darganfod ffeithiau parthed sefyllfa bywydau pobl gyffredin yng ngwlad trydydd byd Bangladesh ym mis Mawrth/Ebrill 2008 ar wahoddiad Dr Jishumoy Dev, meddyg teulu ifanc o Chittagong, ail brifddinas y wlad. Bangladesh, yn ôl ystadegau'r Cenhedloedd Unedig yw gwlad dlotaf Asia. Mae lefelau anllythrennedd, ofergoeliaeth, diffyg maeth, glanweithdra, gofal meddygol ac addysg yn anghyffredin o uchel. Mae cyflwr cymaint o'r tai a'r amgylchedd yn hunllefus o wael. Gwelir plant bach tua chwech oed yn gweithio'n ddyddiol, rhai ohonynt yn ddigartref ac yn cysgu ar y strydoedd. Golygfa gyffredin yw plant a phobl anabl ar y stryd yn cardota; rhai gyda'r anhwylderau a'r anffurfiadau corfforol mwyaf dychrynllyd. Nid oes gan Fangladesh wladwriaeth les i roi cynhaliaeth i'r anffodusion hyn, felly'r unig ffordd i ennill taka neu ddwy yw gorwedd ar y stryd, neu gan amlaf cael eu gollwng ar y stryd gan obeithio y bydd rhywun yn dangos ychydig o dosturi a chynnig taka neu ddwy. Golygfa gyffredin arall yw teuluoedd o blant bach yn crwydro'r dinasoedd, rhai ohonynt yn frodyr a chwiorydd dan dair oed a neb yn gofalu amdanynt, a hynny oherwydd bod y fam yn gweithio yn y ffatrïoedd gwneud dillad ar gyfer ein siopau ni yn y gorllewin. Gwelais lawer ohonynt hefyd yn crafu byw ar domennydd ysbwriel, neu'n torri cerrig a dim sôn am nag ysgol na faes chware nag unrhyw degan i'w diddanu.
Bachgen diffrwyth yn ymbil ar i rhywun ei helpu, Teulu o blant bach yn crwydro'r strydoedd, Merch fach a'i thraed wedi llosgi'n cardota.
Ond, nid yw tlodi bob amser yn gyfystyr â thristwch. Mae gwên barod ar wynebau cymaint o'r plant tlysion hyn, yn barod bob amser i sgwrsio ac i ryfeddu at hen ddyn croenwyn a chasglu'n heidiau i'm dilyn o stryd i stryd! Mae yna ryw bwrpas hanfodol i bob prysurdeb yno; mae yna ddyfeisgarwch fyddai'n rhyfeddu llawer ohonom sy'n byw yng nghanol y dechnoleg ddiweddaraf, a churiad cyffrous i'r holl weithgarwch di-baid a welir o awr i awr. Mae pob dinas a phentref yn ferw o ddiwydrwydd, yn gyforiog o liw ac ogleuon beraroglus a chyfoglyd.
Ty nodweddiadol yn Chittagong
Cefais brofiadau gwerthfawr gyda Dr Ayub Ali, Athro Cynorthwyol Llawdriniaeth Blastig yn Ysbyty a Choleg Meddygol Chittagong, Bangladesh ac ysbytai eraill yn gweld gwaith ar losgiadau a gwefus a thaflod hollt. Mae llosgiadau yn beth cyffredin iawn ym Mangladesh. Oherwydd diffyg cyflenwad trydan mae cymaint o'r boblogaeth yn gorfod dibynnu ar gynnau tân i goginio, fflam i gadw'r mosgito draw a lampau olew ar gyfer goleuni. Rhai o'r problemau mwyaf yw plant bach yn syrthio i'r tanau, saris o ddefnydd synthetig sy'n cael eu gwisgo gan y merched yn mynd ar dân yn ddirybudd a dynion yn ceisio tapio i mewn i wifren drydan heb sylweddoli'r perygl.
Dr Ayub Ali (chwith). Mae cyflenwad trydan yn anghyson a'r offer yn beryglus (de)
Mae'r cyflwr gwefus a thaflod hollt yn beth cyffredin yn y rhan yma o'r byd. Amcangyfrif bod tua 5,000 o blant yn cael eu geni gyda'r cyflwr hwn yn flynyddol ym Mangladesh, ac oherwydd diffyg adnoddau dim ond tua'u hanner sy'n cael eu trin. Mae cymaint o ofergoeliaeth ynghlwm â'r cyflwr - yr hen gred bod y diafol wedi meddiannu'r plant anffodus hyn. Maent yn aml yn cael eu hamddifadu o gariad, o gyfeillgarwch plant eraill ac yn tyfu i gael eu hanwybyddu a'u sbeitio. Clywais gymaint o storïau am famau'n rhedeg i ffwrdd ar ôl rhoi genedigaeth i blentyn â'r cyflwr, neu'r tad yn cefnu ar y teulu a beio'r fam gan adael y teulu heb enillion ariannol. Ond, wrth reswm, mae llawer ohonynt yn cael eu caru a'u magu'n annwyl gan eu teuluoedd, ond yn tyfu'n dioddef yn emosiynol oherwydd eu pryd a gwedd, yn gymdeithasol ac yn economaidd. Yn ystod f'amser yn Chittagong gwelais y wyrth o newid bywydau rhai o'r anffodusion hyn yn dilyn triniaethau hynod o lwyddiannus a berfformid gan rai o'r meddygol y deuthum i'w hadnabod yn ystod f'arhosiad. Cefais f'ysgogi a'm hysbrydoli.
Treuliais y rhan fwyaf o'm hamser gyda Dr Jushumoy Dev, meddyg a llawfeddyg dan hyfforddiant yn ei ganolfa iechyd, a hefyd mewn ysbytai eraill yn y ddinas. Roedd y profiadau hyn yn y feddygfa gyda Dr Jishu (Iesu) yn adlewyrchu'r holl a ddysgais ac y gwelais o gwmpas y lle. Deuai cleifion ato, y rhan fwyaf ohonynt yn dioddef o ddiffyg maeth neu anhwylderau oherwydd diffyg glanweithdra. Doedd rhai ddim yn gallu fforddio'r ychydig geiniogau oedd rhaid ei dalu i ymweld â'r feddygfa, ond roedd Dr Jishu'n barod bob amser i agor ei waled ei hun i dalu'r gost ac yn aml hefyd yn rhoi o'i boced ei hun iddynt fynd am belydr X neu driniaeth bellach. Doedd dim dewis ond gwneud yr un peth fy hun, a hynny cyn i Dr Jishu gael y cyfle i gyrraedd ei waled a chyfrannu'r ychydig o geiniogau oedd eu hangen. Roedd e'n ennill tua £20 yr wythnos a minnau'n byw'n gyfforddus ar bensiwn athro!
Dr Jishu a chlaf
Deuthum yn ffrindiau mawr gyda grwp o sosialwyr ifanc, y rhan fwyaf ohonynt yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Chittagong. Anaml iawn y caent gyfle i gwrdd â rhywun o Ewrop a phrinnach fyth oedd cael cyfle i sgwrsio a holi. Am sawl noswaith bues yn mynd i'w canolfan a chael fy holi'n ddi-ben-draw am fywyd yn y gorllewin ac yn bennaf oll am wleidyddiaeth. Yn ddiwahân, eu prif reswm am fod yn aelodau o'r blaid hon oedd er mwyn gwneud eu rhan i helpu'r tlodion. Aethpwyd â fi ar sawl taith i weld eu gwaith ymarferol yn y gymuned. Yn ystod f'amser gyda hwy daethant i wybod fod rhyw ychydig o fiwsig yn perthyn i mi, ac fe ofynnwyd i mi ddifyrru criw o blant am chwarter awr yn eu cyngerdd i ddathlu'u blwyddyn newydd oedd i ddigwydd ymhen tridiau. Cytunais i wneud hynny, ac er nad oedd modd cael gafael ar biano fe ddaethpwyd o hyd i allweddellau. Ar y noson, a minnau'n teimlo'n ddigon bregus eto oherwydd rhyw dwymyn arall a gorfod reidio wedyn ar y rickshaw mwyaf anghyfforddus gyda Dr Jishu, cyrhaeddom y theatr. Yno roedd dwy fil o bobl yn f'aros! Doedden ni ddim am ddweud wrthot ti am hyn rhag ofn i ti wrthod dod, meddai Bishu, brawd Dr Jishu ac aelod blaenllaw o'r blaid. Fodd bynnag, ar ôl chwarter awr o berfformio, fe gefais y gymeradwyaeth fwyaf a gefais erioed, hyd yn oed yn arwain Côr Godre'r Garth - ond rwy'n siwr mai tosturi oedd achos y rhan fwyaf ohono.
Ar ddiwedd fy nghyfnod ym Mangladesh a minnau'n sgwrsio gan ddiolch o galon i Jishu am y profiadau a'r gofal a gefais, fe ddywedais heb fawr feddwl, 'Wel, os alla i wneud unrhyw beth i helpu......' Yr ateb oedd, 'Wnei di wir?'. A dyna oedd dechreuad BanglaCymru!
Ar ôl dychwelyd i Gymru, gofynnais i dri pherson i ymuno â mi fel ymddiriedolwyr i sefydlu elusen i ariannu llawdriniaethau gwefus / taflod hollt ym Mangladesh. Yn naturiol, Dr Jishu fyddai'r cydlynydd meddygol draw ym Mangladesh, a chanddo ef fyddai'r cyfrifoldeb o gasglu timau meddygol a llogi ysbytai ar gyfer y gwaith a ddigwydd am ryw wythnos ddwywaith dair y flwyddyn. Y nod oedd codi tua chan punt y mis ac ariannu deuddeg o lawdriniaethau yn flynyddol. Ysgrifennais at bawb ym Mhontypridd a'r cyffiniau yr oeddwn i a fy ffrindiau agos yn eu hadnabod, ac fe gefais ymateb ffafriol gan y mwyafrif. Gwahoddwyd fi i ysgolion a chapel i sgwrsio am y fenter, ac ambell i sgwrs ar y radio a'r teledu, ac o dipyn i dipyn chwyddodd y gronfa.
Roeddwn mewn cysylltiad dyddiol â Dr Jishu yn trefnu hyn a llall, ac yna, ar ôl casglu digon o arin dyma benderfynu y byddai BanglaCymru yn dechrau ar ei phriod waith ym mis Tachwedd 2008. Cysylltodd Dr Jishu â Dr AJM Salek, Dhaka, sef un o lawfeddygon mwyaf medrus ar y cyflwr ym Mangladesh, a'i wahodd e i arwain tîm meddygol cyntaf BanglaCymru. Cytunodd i wneud hynny yn ei ysbyty bach i'r tlodion yn y slymiau yn Nhaka. Penderfynwyd ar bedair llawdriniaeth ar hugain wedi'u hariannu gan FanglaCymru. Cefais innau wahoddiad ganddo yntau i fynd ar 'Cleft Camp' gyda fe a'i dîm meddygol; sef, mynd i ardaloedd anhygyrch y wlad i gynnig triniaeth i blant a phobl yr ardaloedd hynny. Roedd y gwersyll hwn wedi'i noddi gan fanc rhyngwladol. Roedd Dr Salek am i mi ddysgu sut y byddai BanglaCymru, rhyw ddiwrnod, yn trefnu'r math yma o ymgyrch.
Dr AJM Salek
Teithiom i lawr y Ganges ar hen long i Fae Bengal ac i fyny afon arall i le o'r enw Borishal. Roedd asiant i'r tîm meddygol wedi bod yno'n barod ac wedi lledaenu'r neges am y llawdriniaethau drwy bosteri darluniadol, hysbysebion i'r ychydig allai ddarllen ac uwch-seinydd ar rickshaw o gwmpas y pentrefi. Disgwylid rhoi llawdriniaeth i 50 o blant a phobl ond erbyn diwedd ein cyfnod yno cyrhaeddodd 150! Roedd ambell un wedi cael triniaeth anfoddhaol iawn gan feddygon lleol na wyddant fawr ddim ar sut i drin y cyflwr, a llawer un arall wedi talu i gau feddygon am ddogn o ffisig hudol! Roedd ambell un ag anffurfiad wyneb mor ddychrynllyd na allwn yn fy nghalon dynnu llun ohonynt er mwyn gallu rhyfeddu dros y lluniau yn ôl yng Nghymru. Anghofiaf fyth un bachgen ifanc oedd yn gyndyn iawn i ddangos ei wyneb yn yr ymgynghoriad. Roedd wedi'i orchuddio â rhwymyn budr rownd ei ben, a'i dad yn eitha diamynedd yn ei orfodi i'w dynnu i ddatguddio'r erchylldra mwyaf. Teimlais i'r byw drosto ac er nad oedd ei anhwylder yn perthyn i'r cyflwr hollt roedd Dr Salek yn gallu ei gyfeirio at un o'i gyfoedion yn y maes plasig. Dyn na allai ddweud 'na' oedd Dr Salek. Roedd chwe chlaf nas gwelwyd ar y diwrnod cyntaf wedi gwneud ymdrech arbennig i ddod i Borishal yn ystod yr wythnos ac fe gynhigiodd Dr Salek arian iddynt deithio ymhellach ac i aros yn Nhaka ac y byddai BanglaCymru yn cynnig ariannu'r chwe llawdriniaeth ychwanegol yma. Cytunais yn syth. Ym Morishal bu'r tîm meddygol yn gweithio ar ddau fwrdd lawdriniaethau o fore gwyn tan tua hanner awr wedi deg bob noson am bedwar diwrnod. Mae'r profiadau a gefais yna yn rai a agorodd fy llygaid i'r pen.
Yn ôl yn y slymiau yn Nhaka dechreuwyd ar waith BanglaCymru. Cyrhaeddais Ysbyty South View, ac yno yn fy nisgwyl yr oedd banner enfawr BanglaCymru'n croesawu pawb. Yno hefyd yr oedd y rhan fwyaf o'r cleifion yn aros, yn fabanod, yn blant a phobl ifanc. Deuthum i adnabod y cleifion hyn a dod i wybod eu hanes - rhai storïau bythgofiadwy. Y cyntaf i ddod i mewn oedd merch fach o'r enw Kamrun. Roedd wedi cael triniaeth yn barod ar ei gwefus a'r tro hwn roedd angen llawdriniaeth i gau'r hollt yn ei thaflod. Roedd gyda'i thad ac yntau hefyd â hollt enfawr yn ei wefus. Gofynnais iddo a oedd awydd ganddo i gael y llawdriniaeth ei hun. Dywedodd ei fod wedi cytuno i hynny pan gafodd ei ferch ei thriniaeth gyntaf gan Dr Salek a hynny er bod ei rieni wedi dweud wrtho am beidio am mai felly yr oedd Duw eisiau iddo edrych. Aeth ymlaen i ddweud bod hynny wedi cael ei gadarnhau pan gafodd neges gan Dduw pan oedd ar fin mynd i mewn i'r theatr. Gofynnodd Dr Salek iddo beth oedd yr arwydd. Atebodd yntau mai arwydd Duw oedd y cryndod mawr a ddaeth drosto wrth gerdded tua'r theatr! Diolch fyth, roedd yn fodlon i Kamrun gael ei thriniaeth.
Kamrun
Stori arall oedd am ferch ifanc ddeunaw oed ac anffurfiad wyneb difrifol ganddi. Roedd yn gweithio yn y diwydiant gwneud dillad. Pan aeth yn ôl i'w gwaith ar ôl ei hymgynghoriad gyda ni'r bore cyntaf, fe ofynnwyd iddi lle'r oedd hi wedi bod. Dywedodd y gwir, ond yna fe'i rhybuddiwyd petai'n mynd y diwrnod canlynol am y driniaeth y byddai'n colli ei gwaith. Er hyn, daeth yn ôl y diwrnod canlynol, fe gafodd ei llawdriniaeth ac fe gafodd waith gan Dr Salek yn Ysbyty South View.
Yr hanes a gyffyrddodd calon pob un ohonom oedd stori bachgen deunaw oed o'r enw Manu. Fe'i magwyd mewn ardal bellennig ym Mangladesh, ac ychydig flynyddoedd yn ôl bu farw ei fam. Ailbriododd y tad ond fe daflwyd Manu allan o'r cartref gan y fam newydd oherwydd ei bod yn grediniol fod y diafol wedi'i feddiannu. Teithiodd bellter mawr ar ei ben ei hun i Dhaka oherwydd iddo wybod bod ganddo berthnasau'n byw yno. Wedi cyrraedd ty'r perthnasau cyntaf, a churo'r drws gan egluro pwy oedd, fe gaewyd y drws yn ei wyneb. Digwyddodd yr un peth yn yr ail dy. Cafodd waith yn gofalu am giatiau bloc o fflatiau yn y ddinas ac yno wrth y giatiau roedd yn byw a chysgu. Un dydd fe welodd un o breswylwyr y fflatiau hysbyseb BanglaCymru yn y papur lleol. Daeth â Manu i'r ysbyty ar y bore cyntaf ac fe gafodd ei ddewis i gael y driniaeth. Er yr holl ddewrder a dygnwch oedd wedi ei ddangos yn ei fywyd, efo oedd y mwyaf nerfus o bawb a ddaeth. Ar ôl iddo ddeffro yn dilyn ei lawdriniaeth daeth y dyn o'r fflatiau i'w weld ac i'm gweld innau i ddiolch i mi. Rhoddais innau fis pitw o gyflog iddo o £15 er mwyn iddo gael lle glân i aros ynddo a chael gorffwys cyn ailddechrau er ei waith yn dilyn y lawdriniaeth. Bedwar diwrnod wedyn daeth Manu yn ôl i gael tynnu'i bwythau. Roedd mor nerfus gyda'i wefusau'n crynu na allai'r meddyg wneud y dasg. Gofynnodd Manu i mi ddod i ddal ei law! Ar ôl tynnu'r pwythau diolchodd i mi eto gan ofyn i mi weddïo drosto. Ymhen tridiau wedyn cefais neges gan ddyn y fflatiau yn dweud fod Manu wedi diflannu! Ond mae diwedd hapus i'r stori. Ffoniodd Manu'r dyn a dweud wrtho ei fod wedi ffonio'i dad i roi'r newyddion iddo sef bod yr aflwydd wedi ei adael a'i fod, erbyn hyn yn normal! Ni allai'r tad ei gredu, ac oherwydd ei amheuon a hefyd ei chwilfrydedd fe wahoddodd ei fab yn ôl adref. Defnyddiodd fy mhymtheg punt i deithio'n ôl, ac fe'i croesawyd yn ôl wrth i bawb ryfeddu at ei wyneb newydd, ac fe drefnodd ei dad ystafell iddo fyw yn ôl yn ei gynefin. Mae'n byw erbyn hyn yn ôl yn ei filltir sgwâr yn wr ifanc cyffredin a gwaith a dyfodol ganddo. Er na welaf Manu fyth eto nis anghofiaf e tra fyddaf fyw.
Manu cyn a diwrnod ar ôl y llawdriniaeth
Yn ôl yn Ysbyty South View bu prysurdeb mawr yn y theatr ar ddau fwrdd llawdriniaethau yn ystod wythnos BanglaCymru. Roeddwn i mewn ac allan o'r theatr yn dyst i'r mwyafrif o'r llawdriniaethau ac yn ceisio rhoi cysur i'r plant wrthynt ddod i mewn. Anghofiaf fyth ambell un bach yn dod i mewn fel petai'n mynd i ffair, gyda gwên ar ei wyneb, yn neidio'n awchus i'r bwrdd llawdriniaeth gan edrych ar y nodwydd yn mynd i gefn ei law i ddechrau ar y gwaith o'i gael i gysgu. Yr hyn oedd fwyaf cyffrous oedd eu gweld ar ôl y llawdriniaeth. Er bod eu gwefusau'n chwyddedig ac yn llawn pwythau roedd y canlyniadau'n syfrdanol. Roeddwn yn llawn balchder bod criw o Gymry wedi bod yn gyfrifol am newid bywydau'r trueiniaid hyn, a hynny dim ond ar ôl dwy neu dair awr o waith soffistigedig tîm meddygol BanglaCymru a swm pitw o gan punt gan fy nghydwladwyr! Yr eisin ar y gacen wedyn oedd gweld y gwefusau'n dechrau gwenu wrth iddyn nhw i gyd gael baner y ddraig goch ar ddiwrnod tynny'r pwythau oedd ddim ond pedwar diwrnod ar ôl y lawdriniaeth.
Ond, roedd siomedigaethau hefyd. Un ohonynt oedd ambell fam yn dod â'u babanod am lawdriniaeth heb wir sylweddoli bod y plant yn llwgu, a rhai ar fin marw am nad oeddent yn gallu sugno unrhyw faeth. Ond roedd cyngor meddygol ar gael er mwyn dysgu'r fam, un ohonynt ond tair ar ddeg oed sut i fynd ati i gryfhau'r plentyn dros gyfnod fel ei bod yn bosibl cynnig llawdriniaeth yn y dyfodol. Doedd neb yn cael ei wrthod a chofnod manwl yn cael ei wneud o bob claf oedd i gael llawdriniaeth yn y dyfodol. Siomedigaeth arall oedd gweld y dadrithiad ar wyneb mam i ddau fachgen bach a aned heb drwynau yn gorfod gadael ar ôl clywed nad oedd modd cynnig gwellhad iddynt. Dyma'r unig dro i mi weld Dr Salek heb ddewis ond dweud 'na' a'r un dadrithiad ar ei wyneb yntau. Y drydedd siomedigaeth a gefais oedd sylweddoli, ar ôl ymbil â'r banc i ryddhau'r £2,400 a drosglwyddais yn electronig cyn gadael Cymru, nad oedd popeth yn iawn! Mae problemau parthed terfysgaeth yn y wlad a rhai mudiadau anghyfreithlon yn anfon arian yn enw mudiadau dyngarol. Treuliais amser ac egni yn eu perswadio bod BanglaCymru yn elusen ddilys. Llwyddais, ond och, dim ond tua £2,050 ddaeth i law. Bai'r bunt oedd hynny - roedd y dibrisiant diweddar wedi cael effaith andwyol ar y coffrau wrth drosglwyddo o un arian i'r llall. Ond, daw dydd, rwy'n siwr pan ddaw normalrwydd economaidd i arglwyddiaethu eto ac y bydd y bunt yn werth llawer mwy!
Ar ôl dychwelyd i Gymru cyrhaeddwyd carreg filltir newydd a mwy o newyddion da. Y garreg filltir bwysicaf, wrth gwrs oedd bod BanglaCymru wedi bod yn weithredol ac wedi newid bywydau deg person ar hugain draw ym Mangladesh. Carreg filltir arall oedd cyrraedd y swm misol o £500, sef cyfraniadau hael cyfranogwyr BanglaCymru. Cyrhaeddodd llawer o arian o'm pentref genedigol, sef Trefor yn Llyn, ysgolion lleol, swm hynod o anrhydeddus gêm griced noddedig tîm Clwb y Bont a'r Golbetrotters, a'r newyddion bod Capel Bethlehem, Gwaelod y Garth wedi mabwysiadu BanglaCymru fel elusen y flwyddyn. Ie, ac elusen yw hi erbyn hyn : llwyddias i'w chofrestru'n swyddogol gyda'r Comisiwn Elusennau. Felly, i fyny bo'r nod!
Braint oedd cael ymweld unwaith eto ag Ysbyty'r Tlodion yn South View, Dhaka lle'r oedd Dr Jishu, y cydlynydd meddygol wedi trefnu o leiaf bymtheg ar hugain o lawdriniaethau dan faner BanglaCymru ddiwedd Ebrill, 2009. Mawr oedd fy llawenydd o ddeall mai Dr Salek, llawfeddyg mwyaf blaenllaw Bangladesh ar wefus/taflod hollt a pherchennog yr ysbyty fyddai'n arwain y tîm meddygol unwaith yn rhagor.
Y tro hwn roedd mwyafrif y cleifion wedi'u dewis eisoes gan Dr Salek, a dechreuwyd ar y gwaith o newid bywydau'n ddiymdroi. Teithiodd rhai o'r cleifion o bellafoedd y wlad i gael eu trin gan y dewin, a'r mwyafrif ohonynt wedi'u cyfeirio ato gan nifer o elusennau'n gweithio mewn amrywiol feysydd ym mhob cwr o'r wlad. Wyth awr yng ngwres annioddefol Bangladesh mewn bws a ymdebygai i gwt sinc ar olwynion a dreuliwyd gan un gwr ifanc a ddaeth â'i gefnder bychan saith oed, di-fam i gael ei drin. Dywedodd nad oedd yr ychydig anghysur yn y cwt sinc yn ddim i'w gymharu â'r boen fu'n rhaid i'r bychan ei ddioddef am y blynyddoedd fu ar wyneb daear y wlad lom, brydferth hon.
Un ar ôl un y daeth yr wynebau afluniaidd â'r llygaid pefr i'r theatr lawdriniaethau; llawer ohonynt yn rhy ifanc i wybod beth a ddigwyddai iddynt ac eraill yn fferllyd neu'n domen o chwys wrth ddychmygu pa ffawd a ddeuai i'w rhan. Doedd hyn yn ddim syndod gan nad oedd y mwyafrif erioed wedi bod dros drothwy ysbyty o'r blaen. Mawr oedd eu petruster wrth feddwl am orwedd ar fwrdd gan wybod y byddai un o'r bodau dieithr â'r mygydau a safai o'u cwmpas mewn gwisgoedd gwyrdd sterilaidd ym mysg peiriannau brawychus, yn defnyddio cyllell i ad-drefnu'r rhan o'u hwyneb fu'n felltith arnynt ers diwrnod eu cenhedliad. Ond, rhoddai'r freuddwyd o gael bywyd newydd, normal yr hyder i gamu ymlaen i wynebu'r hyn a drefnodd rhagluniaeth a BanglaCymru ar eu cyfer.
Ar y chwith, Y ddau gefnder. Ar y dde, Y gyrrwr Rickshaw cynt ac wedyn
Rhag cywilyddio ei bedwar plentyn y daeth un gyrrwr rickshaw, sef person o haenen isaf cymdeithas Bangladesh a chanddo anffurfiad wyneb difrifol i gael ei drin. Roedd wedi gorfod dioddef gwawd diarbed drwy'i oes, ond roedd y gwawd a ddioddefai ei blant oherwydd ei gyflwr wedi'i ysgogi i wynebu llawdriniaeth na wyddai oedd ar gael heb sôn am allu fforddio'r ffasiwn beth. Trannoeth ei lawdriniaeth dangosais ei lun iddo ar fy nghamera a dywedais ei fod bellach yn wr golygus iawn. Ysodd i wenu, ond ni allai oherwydd y pwythau ond nododd yn awchus, "Ydw, golygus iawn, ond fydda i ddim yn gadael fy ngwraig ar ôl hyn i gyd. Mi ofalodd hi amdanaf hyd yn oed pan oeddwn i'n hyll!"
O'r 'hyll' i'r 'golygus' fu hanes pob un ohonynt, yn fabanod, yn blant ac oedolion, ond golygai'r 'golygus' lawer mwy na phryd a gwedd yn unig. Diolch i FanglaCymru cafodd dau glaf ar bymtheg ar hugain eto gyfle newydd i grafu byw a chael eu derbyn yn un o wledydd mwyaf anghenus y byd. Mae'r diolch i gyd i chi.
ar gopa Kilamanjaro a Dr Jishu gydag AC yn y Cynulliad
Wele rai o uchafbwyntiau'r Haf a'r Hydref:
Y tro hwn rhoddwyd llawdriniaethau i 40 o gleifion gwefus a thaflod hollt, sy'n gyfanswm erbyn hyn o 107 mewn ychydig dros flwyddyn! Daeth dau blentyn atom gydag anafiadau llosg difrifol, a'r briw wedi crebachu rhannau o'u cyrff nes bod pen un ohonynt wedi glynu â'i hysgwydd a'r llall na allai godi ei freichiau. Efallai y gallwn ymhen amser, gyda'ch caniatâd chi, anelu peth o arian BanglaCymru i drin mwy o'r cleifion adfydus hyn hefyd. Yn ogystal, daeth atom lawer o gleifion gydag anffurfiadau wyneb mor ddifrifol na allwn eu disgrifio yma oherwydd enbydrwydd eu cyflwr, ond bron bob tro, er nad oeddynt yn gleifion llosg nac yn gleifion hollt roedd gan y prif lawfeddyg rywun yn rhywle i'w helpu. Roedd gan bob un o'r trueiniaid brofiadau dagreuol i'w hadrodd - efallai y caf gyfle i'w cyfleu i chi rhyw dro eto. Mi fyddwn yn fwy na balch o ymweld ag unrhyw sefydliad i rannu'r profiadau hyn â chi.
Bu pob llawdriniaeth yn llwyddiant difesur. Gorchwyl anodd oedd hi i'r cleifion wenu â gwefusau dolurus i ddweud diolch wrth dderbyn baner y ddraig goch ar ddiwrnod tynnu pwythau, ond gwyddwn fod eu calonnau'n llamu â chyffro a diolchgarwch wrth ysgwyd fy llaw a'm cofleidio. Cofleidio bob un ohonoch chi y maent bob tro.
Erbyn hyn mae llawer o ddatblygiadau wedi digwydd yn y wlad brydferth hon i hyrwyddo a hwyluso gwaith BanglaCymru; datblygiadau megis sefydlu pwyllgor lleol i oruchwylio'r gwaith a gofalu am y gronfa, llunio rheoliadau iddo, dechrau sefydlu rhwydwaith o gysylltiadau gwerthfawr a chael sefydlu cyfrif banc o'r diwedd wrth ffalsio a llwgrwobrwyo'r rheolwr gyda llond plât o gyri a hynny'n arbed y profiadau hunllefus diddiwedd yr wyf wedi'u cael wrth geisio trosglwyddo arian. Sefydlwyd hefyd swyddfa BanglaCymru heb unrhyw ddimai goch yn dod o'r gronfa. Cadwaf at f'addewid o beidio â gwario'r un geiniog ar weinyddu!
Cynhaliwyd y sesiwn lawdriniaethau diweddaraf yn ardal Sylhet lle rhentodd BanglaCymru theatr lawdriniaethau am dridiau yn Ysbyty Colegol Sylhet i Fenywod. Yn dilyn y sesiwn ymgynghori ac asesu meddygol ar y diwrnod cyntaf penderfynwyd bod deugain o gleifion yn ddigon iach i dderbyn llawdriniaeth. Roedd y mwyafrif o'r cleifion hyn yn neilltuol o dlawd ac yn crafu byw wrth bysgota mewn pyllau a glannau afonydd heb obaith fyth i brynu'r cwch lleiaf. Roedd ambell un hefyd yn crafu byw ar y tir yn lloffa, a rhai yn gweithio fel gyrrwyr rickshaw ac felly'n perthyn i haenan isaf cymdeithas ym Mangladesh.
Y threatr llawdriniaethau . Yr arwydd tu allan i'r ysbyty
Fel arfer trefnwyd y sesiwn y tro hwn eto gan ein cydlynydd meddygol, Dr Jishu, a Dr Salek, sef un o lawfeddygon ac arbenigwyr mwyaf blaenllaw Bangladesh ar y cyflwr hollt yn brif lawfeddyg. Gelwir y math hwn o sesiwn ym mysg y meddygon yn 'wersyll hollt' neu 'cleft camp' a gwn nad ellid fyth ymdebygu'r profiad â'r sbort a miri yng Nglan Llyn neu Llangrannog! Ond, prif bwrpas y 'gwersylloedd' yw lledaenu'r neges am fodolaeth y driniaeth mewn ardaloedd anghysbell, a chael gafael ar gleifion na allai fyth deithio i'r brifddinas heb sôn am allu talu am y fath driniaeth. Y tro hwn rhoddwyd cyfle i dri llawfeddyg cynorthwyol newydd ar wahân i Dr Jishu fod yn rhan o'r tîm meddygol, sef Dr Rupon, Dr Polash a Dr Mannan a'r anesthesiologydd oedd Dr Ragib. Roedd y llwyth gwaith yn affwysol, ac oherwydd gwasgfa amser roedd eu horiau gwaith yn hirfaith ac un diwrnod buont yn gweithio o wyth y bore tan ddau o'r gloch y bore canlynol!
Y tro hwn eto daeth sawl claf llosg i'r ysbyty yn crefu am driniaeth. Unwaith y caiff y trueiniaid hyn wybod bod triniaethau rhad ac am ddim ar y corff allanol ar gael cymerant yn ganiataol eu bod hwythau'n gymwys i gael eu gweld. Gorchwyl torcalonnus yw eu gwrthod. Rwy'n mawr obeithio y daw dydd y gall BanglaCymru gynnig help iddynt. Problemau eraill ddaeth i'r amlwg unwaith yn rhagor oedd cleifion hollt oedd eisoes wedi cael triniaethau a'r rheini'n driniaethau diffygiol gan feddygon lleol na wyddent fawr am oblygiadau meddygol y cyflwr na sut i gynnal llawdriniaeth. Daw'r cleifion hyn i ofyn am gael cywiro'r nam a chleifion eraill wedyn wedi bod yn ymweld â'r gau feddygon felltith a gwelid y tabij, sef y tiwb bychan o ddogn ffisig diwerth a hongia wrth eu gyddfau i ddangos i bawb eu bod wedi cael sylw'r cyfryw rai!
Babu a'i fam . Llaw a wyneb anffurf
Un stori drist oedd stori Babu. Bachgen bach chwech oed a ymdebygai i blentyn hanner ei oed yw Babu yn byw gyda'i fam. Mae mam Babu yn lloffa yn y caeau a thrwsio dillad gyda'r nos i ennill digon i'w cadw'n fyw o ddydd i ddydd. Collodd y fam blentyn cyn geni Babu a hynny o afiechyd fyddai wedi bod mor hawdd yma yng Nghymru i'w drin. Roedd gan Babu namau ar wahân i'w wefus hollt yn cynnwys anffurfiad genedigol i'w law a chymhethdodau anadlol. Gadawodd y tad y ddau pan oedd Babu'n faban gan feio'r fam am namau'r plant a anwyd iddynt, ac fe'i curodd yn ddidrugaredd sawl gwaith cyn gadael. Ond, nid dyna ddiwedd poendod y fam. Ers geni Babu mae ei mam yng nghyfraith wedi bod yn hynod o greulon tuag ati yn ei gwawdio ac ymosod arni a hynny oherwydd iddi gredu bod mam Babu wedi dwyn gwarth a melltith ar y teulu. Dyma un o'r symptomau sy'n deillio o'r ofergoeliaeth a berthyn i'r cyflwr ym mysg y rhai anllythrennog. Yn anffodus ni chafodd Babu ei ddewis i gael llawdriniaeth y tro hwn, ond ni fydd BanglaCymru yn troi cefn arno. Mae trefniadau ar droes i'w anfon i ysbyty yn Nhaka lle mae darpariaethau meddysgol gwell ar gyfer ei anghenion arbennig, ac felly buan y daw'r dydd y caiff Babu fywyd newydd fel y cafodd deugain o blant a phobl ifanc eraill yn Sylhet. Diolch i FanglaCymru mae gan y deugain yma gyfle i gael bywyd gwell yn y wlad amddifadus hon.
Nid yr hafddyddiau hirfelyn tesog a'm croesawodd y tro hwn i Fangladesh ond glawogydd trymion, diddiwedd a llifogydd brawychus. Dywed y brodorion mai'r cynhesu byd eang sy'n gyfrifol am ddrysu trefn eu chwe thymor a phrawf o hynny oedd dyfodiad cynnar anarferol y tymor monswn. Dyma'r cyfle delfrydol meddyliwn, i olchi'r strydoedd afiach a ffosydd agored strydoedd y ddinas lle gwelir dynion byth a beunydd yn hollol ddigywilydd yn eu defnyddio fel geudy. Ond, buan y newidiais fy meddwl pan glywais am laweroedd oedd yn byw ar lannau'r afonydd yn colli'u bywydau a llond bws o fyfyrwyr yn cael ei ysgubo gyda'r dilyw i'r afon leol lle y collodd pob un ohonynt eu bywydau. Ddyddiau wedyn daeth tywydd llethol, crasboeth, anhyddwyn. I goroni'r cyfan crëwyd braw mawr ym mysg y brodorion pan ddaeth y newyddion bod clefyd y ddueg (anthracs) wedi lledaenu trwy'r ddinas. Nid digwyddiadau cymedrol, beth bynnag fo'u natur sy'n digwydd ym Mangladesh.
Tro'r Hindwaid oedd hi'r tro hwn i ddathlu un o wyliau pwysicaf eu blwyddyn addoli, sef y Durga Purja. Cwbl ryfeddol oedd y delwau clai o'r Durga â'i deg braich a'i chyd ddelwau â'u gwisgoedd ysblennydd a welid ym mhob cwmwd o'r cymdogaethau Hindwaidd, a mwy rhyfeddol fyth oedd y gorymdeithiau swnllyd lle'r aed â hwy i'r dyfroedd er mwyn i'r elfennau eu hail feddiannu.
Ond, daeth ein hamser i fynd ati i gyflawni ein priod waith. Teithiais gyda Dr Jishu, ein cydlynydd meddygol, Dr Salek y prif lawfeddyg a gweddill y tîm meddygol i dref Rajshahi ar lan yr afon Ganges yng ngogledd orllewin Bangladesh ar y ffin ag India. Roedd y daith mewn racsyn o fws yn un eithriadol flinderus drwy diroedd llaith, mawnog a chorsydd a llynnoedd di-ben-draw . Yma gallwn ddirnad simsanrwydd y cydbwysedd ecolegol - bygythiad beunyddiol Bangladesh. Yn ôl y brodorion eu hunain mae Rajshahi yn ardal nodedig o dlawd oherwydd i'r corsydd hyn drwy'r oesau fod yn atalfa ac yn rhwystr i'r ardal esblygu fel gweddill y wlad. Prin y gwelid ei phobl yn mentro'r tu draw i'r mawnogydd.
Wrth i ni ddynesu at yr ysbyty daeth tyrfa fawr at ddrysau'r bws. Moesymgrymai rhai, eraill yn wên o glust i glust wrth i ni ddisgyn o'r cerbyd a dadlwytho'r cyfarpar a'r bocsys meddygol. Yno gwelsom ugeiniau o drueiniaid â'r wynebau anffurf yn dorf ddolurus o'm blaenau. Am yr wyth awr nesaf archwiliwyd dros gant o'r trueiniaid a phob un ohonynt â'u hanesion athrist. Daeth gwên i wyneb pan ddaeth un gwr oedrannus atom gyda hollt difrifol yn ei wefus. Hwn oedd yr hynaf erioed i mi ei weld yn dod atom am driniaeth.
"Pa mor hen wyt ti?" Gofynnodd y prif lawfeddyg.
"Hanner cant," meddai yntau. Gwenodd y llawfeddyg a'i holi ymhellach, "Sut oedd hi arnat ti yn ystod Rheolaeth y Prydeinwyr ac amser Gandhi?"
"Wel, hogyn ifanc oeddwn i bryd hynny ond mae gen i gof go lew o'r cyfan!" oedd yr ateb. Roedd Rheolaeth y Prydeinwyr wedi dod i ben ym 1947!
Ymhen ychydig funudau daeth dynes o'r un oed atom a hithau eto â hollt echrydus yn ei gwefus a'i deintgig.
"Pa mor hen wyt ti?" "Deugain",atebodd yn hyderus a'i gwên ddarniog yn serennu arnom. "Chreda i fawr", meddai'r llawfeddyg yn ddireidus. Ymatebodd hithau; "Collais fy mam a fy nhad pan oeddwn i'n blentyn a ddwedon nhw erioed wrthyf ba mor hen oeddwn i cyn iddyn nhw farw." Bu raid i un bachgen tua deunaw oed adael yr ystafell i ofyn i'w dad faint oedd ei oed, ond babanod a phlant bach oedd y mwyafrif llethol a ddaeth i gael eu trin. Anodd oedd methu â'u cysuro oherwydd y broblem iaith ac anos fyth oedd methu â'u cofleidio wrth weld eu nerfusrwydd wrth wynebu panel ohonom mewn ystafell oedd yn llawn cyfarpar meddygol anghyfarwydd a'r llawfeddygon yn bodio'u gwefusau bregus ac ymestyn eu cegau'n fwy na lled y pen i archwilio hollt eu taflod. Y dogn lleiaf erioed o sentimentalrwydd a roddwyd i Fangladesh yn ei hoes fer a llai fyth ohono a roddid i'r bychain hyn i'w cysuro'r noson honno na diwrnod y driniaeth.
Trist oedd gweld rhai cleifion eto oedd wedi cael triniaethau anfoddhaol blaenorol na ellid eu gwrthdroi. Daeth un fam ddagreuol â'i bachgen deuddeg oed atom ac yntau heb wefus na blaengern dan ei drwyn. Edrychai'n eithriadol ysgeler. Roedd llawfeddyg nad oedd â chymhwyster plastig addas wedi difetha meinwe a chyhyr y flaengern (premaxilla) ac felly ni ellid gwneud unrhyw beth o fewn ein hamgylchiadau cyfyng yn Rajshahi i'w helpu. Crefodd y fam ar y llawfeddygon i wneud rhywbeth i roi cymorth i'w mab. Dan deimlad fy hunan y gwelswn hi'n bruddglwyfus yn gorfod gadael yn waglaw, ond, sylwais drwy gil y drws ei bod yn gyndyn o adael yr ystafell aros. Gallwn ei gweld yn fy llygadu'n wylofus. Pan agorwyd y drws i'r claf nesaf rhuthrodd y fam yn ôl i'r ystafell fel hyrddwynt, heibio'r llawfeddygol a'r swyddogion a thaflu ei hun i'r llawr a chusanu fy nhraed yn ei gwewyr a'i hanobaith. Crochlefodd arnaf i estyn cymorth i'w mab! Llifodd pob diferyn o waed o'm gruddiau! Yn syfrdan erfyniais innau ar y prif lawfeddyg i wneud rhywbeth. Beth am driniaeth gosmetig? Beth am brosthetics? Unrhyw beth dan haul! Rhesymwn yn daer yn union fel petawn yn gwybod yn burion beth oedd y posibiliadau meddygol fy hunan. Drannoeth dychwelodd y fam drachefn a gwelwn y bachgen o bryd i'w gilydd yn crwydro'r ysbyty ar ei ben ei hun yn mynd o ystafell i ystafell, rhagdybiwn, i grefu ar unrhyw un i gynnig help. Yn amlwg roedd yn cael ei gyfarwyddo gan ei fam o'r dirgel. Hon oedd un o'r golygfeydd mwyaf dolefus a welais erioed! Yn ddiweddarach dywedodd un meddyg wrthyf fod y prif lawfeddyg yn gyfrinachol yn y diwedd wedi rhoi ei rif ffôn a chyfeiriad ysbyty arbenigol yn Nhaka iddo. Rhyfeddais at ddycnwch ac at gariad diamod a chymhelliad diysgog y fam i chwennych cymorth i'w phlentyn.
Y fam a'i mab Gwên y ddynes '40' oed Yr hyfangwr o gyfnod Ghandi
Adref yng Nghymru mae gennym un ganolfan i drin cleifion hollt, sef Ysbyty Treforys, Abertawe. Cynhigir yma'r driniaeth hollt gyflawn, nid yn unig i'r plentyn ond i'r rhieni hefyd. Mae naw i gyd drwy wledydd Prydain. Nid oes gan unrhyw lawfeddyg yng ngweddill ysbytai'r Gwasanaeth Iechyd yr hawl i berfformio'r weithred feddygol arbenigol hon. Och na fyddai'r rheol hon yn bodoli ym Mangladesh.
Yn ystod yr wythnos, er gwaetha'r geri marwol (cholera) ledaenodd yn ein hysbyty, fe roddwyd llawdriniaeth lwyddiannus ac o'r ansawdd gorau i 98 o gleifion: nifer syfrdanol! Yn ychwanegol, addawyd ariannu triniaeth i un ferch bump ar hugain oed ddaeth atom â llosg ar ochr ei hwyneb a'i gwddf a'r cnawd wedi crebachu fel na all droi ei phen fel pawb arall. Chi gofiwch i FanglaCymru benderfynu rhoi cymorth a fyddai'n gyfwerth ag un driniaeth y mis i gleifion llosg. Hon fydd y gyntaf ohonynt.
Anfonaf fy nymuniadau gorau atoch a'm diolch didwyll am eich cefnogaeth. Erfyniaf arnoch i barhau i gyfrannu fel y gallwn newid bywydau drwy gynnig llawdriniaethau i fwy na'r 251 a gyflawnwyd eisoes drwy garedigrwydd cyfranogwyr BanglaCymru.
Wrth i flwyddyn newydd wawrio ar waith BanglaCymru daeth diwedd ar gyfres o driniaethau i'n claf llosg cyntaf . Dechreuodd ein cydlynydd meddygol, Dr Jishu drin bachgen bach pedair oed o'r enw Sabbir ddiwedd y flwyddyn. Pan oedd Sabbir yn flwydd oed cropiodd i'r man lle coginia'i fam ac wrth geisio codi'i hun rhoddodd ei law mewn padell llawn hylif poeth oedd yn ffrwtian ar y tán. Llosgodd ei law yn alaethus ac aeth ei fam á'r truan at gau feddyg oedd yn rhatach na'r meddyg cydnabyddedig. Cafodd driniaeth iselradd gan hwnnw a'i adael mewn poen melltigedig am wythnosau. Anodd yw dirnad y fath adfyd a chystudd ddioddefodd y crwtyn. Ymhen amser crebachodd a chaeodd ei law yn garn o gnawd ac asgwrn diwerth.
Trychineb yw hi i unrhyw un fod yn anabl ym Mangladesh. Sut all plentyn ennill bywoliaeth heb allu defnyddio ei ddwy law? Llafurwr yn ennill punt y dydd yw ei dad, ac ni allai fyth dalu am driniaeth feddygol o unrhyw ansawdd i'w fab. Erbyn hyn da yw gallu dweud fod y driniaeth a gynhwysai cyfres o impio croen a sythu esgyrn wedi bod yn llwyr lwyddiannus. Dyna roi bywyd newydd i blentyn arall ym Mangladesh.
Y tro hwn, ar ddechrau'r flwyddyn aeth tîm meddygol BanglaCymru dan arweinyddiaeth yr Athro Dr Salek i le o'r enw Noahkali; o'i gyfieithu, 'Y Gamlas Newydd'. Mae'r lle hwn yn agos i arfordir Bae Bengal nepell o aber yr afon Ganges. Dyma le sydd wedi dioddef trychinebau naturiol ac erchyllterau dynol difrifol yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf, ond roedd BanglaCymru yna i gynnig gobaith, gwellhad ac adferiad i'w dinasyddion lleiaf ffodus. Un stori nodweddiadol oedd stori Tahmina; merch bymtheg oed, er na wyddai ei hoed i sicrwydd fel y mwyafrif o'r plant a ddaeth am driniaeth. Roedd yn gwbl anllythrennog, ond soniodd ei bod wedi cael dechrau ysgol a bod ei rhieni wedi bod yn frwd iddi ddysgu. Fodd bynnag, oherwydd ei gwefus hollt arswydus aeth ei dyddiau ysgol cynnar yn ddyddiau o wawd a dirmyg a gwrthododd ddychwelyd ar ôl ychydig ddyddiau. Yn ystod yr wythnos yn Noakhali cafodd Tahmina a 63 claf arall gyfle i ddechrau bywyd newydd oherwydd caredigrwydd cefnogwyr BanglaCymru. Mae'r cyfanswm bellach yn syfrdanol 315 a hynny mewn cyn lleied o amser.
Daeth Ebrill â chyfle arall i dîm meddygol BanglaCymru newid bywydau. Y tro hwn aeth y criw i ardal fechan o'r enw Tangail sy'n perthyn i ranbarth Dhaka yng nghanol Bangladesh. Ardal o'r un maint ag Ynys Môn yw'r ardal hon, ond yn lle bod ganddi boblogaeth o ddeg a thrigain mil fel sydd gan ein hynys ni mae gan Tangail boblogaeth Cymru gyfan, sef 3.4 miliwn! Mae yma gyfundrefn o afonydd sy'n wythïen o lesâd i'r ardal, ond yn ystod y tymor glawogydd yn troi'n felltith. Amaethyddiaeth yw prif ddiwydiant yr ardal a physgota a gwehyddu hefyd yn gyffredin. Yn gyffelyb i weddill y wlad dim ond 29% o boblogaeth yr ardal sy'n llythrennog.
Llogwyd theatr lawdriniaethau'r ysbyty lleol; ysbyty nodedig o dlawd, ac felly rhaid oedd cludo lliaws o gyfarpar meddygol hanfodol i hwyluso'r gwaith. Daeth tua chant a hanner o gleifion i gael eu gweld ond dim ond 56 ohonynt oedd yn gleifion hollt, sef priod genhadaeth y tîm meddygol. Ond, yn ôl yr arfer, cyfeiriwyd y rhai a siomwyd at sefydliadau ac elusennau eraill fyddai'n gallu cynnig cymorth, ac er i 13 o gleifion hollt hefyd gael eu siomi am amrywiol resymau rhoddwyd cyfarwyddiadau iddynt hwy a'u rhieni i deithio i ganolfannau eraill i gael eu trin yn nes ymlaen. Felly, dewiswyd y rhai oedd yn ddigon iach a chryf i gael y lawdriniaeth fyddai'n newid eu bywydau.
Un ohonynt oedd Fahima . Merch bymtheg oed oedd yn dioddef o wefus a thaflod hollt oedd hon. Ei mam a fynegodd ei phrif bryder sef bod gobaith iddi briodi'n fuan dim ond iddi gael y ddwy lawdriniaeth. Dyma oedd un o amodau'r darpar wr. Eglurwyd iddi ei bod yn anarferol i geisio cyweirio'r daflod i un o'i hoedran hi oherwydd y perygl o fethu â rheoli'r gwaedu, a hefyd, y byddai cyweirio'r wefus yr un pryd â'r daflod yn gallu bod yn risg. Fodd bynnag, crefodd y fam ar i Dr Salek a'r criw gyflawni'r cyfan gan ddweud y byddai'r risg honno'n llai na'r risg o fethu â phriodi a byw bywyd aflwyddiannus ac anhapusrwydd. Bu'r cyfuniad anarferol o driniaethau'n llwyddiant ac aeth y ddwy adre i ddechrau trefnu'r briodas!
Fahima cyn y lawdriniaeth | Fahima yn yr uned adferiad
Llwyddiant mawr oedd y 'gwersyll hollt' hwn eto, a diolch i garedigrwydd cefnogwyr BanglaCymru fe roddwyd llawdriniaeth lwyddiannus i 43 o 'gleifion hollt' ardal Tangail. Mae'r cyfanswm ers Hydref 2008 erbyn hyn yn 359, a gwn bod diolch y cleifion a'r tîm meddygol i'r Cymry am eu helusengarwch yn un gwir ddidwyll.
Tros fawnogydd anhygyrch Rhanbarth Rajshahi y teithiais am yr eildro gyda thím meddygol BanglaCymru. Taith hirfaith a hunllefus oedd hi i gyrraedd ysbyty tref Rajshahi lle trefnwyd ein 'gwersyll hollt'. Un cymhwyster sydd ei angen ar yrwyr Bangladesh a hwnnw yw'r gallu i dorri holl reolau'r ffordd fawr bob dwy filltir ar gyflymdra brawychus. Lladdir chwe pherson ar ffyrdd Bangladesh bob awr, ond diolch i'r drefn ni chynhwyswyd ni yn yr ystadegau hyn!
Union flwyddyn yn ôl daethom yma o'r blaen a thrin nifer helaeth o gleifion. Roedd y fenter mor llwyddiannus bryd hynny fel y cawsom ein gwahodd drachefn i weld lliaws o gleifion newydd. Roedd si ar led bod nifer fawr o gleifion posib wedi cofrestru. Doedd hyn, yn naturiol ddim yn golygu y byddai pob un ohonynt yn cael eu trin. Rhai o'r rhesymau am wrthod yw diffyg maeth ac angen cryfhau'r claf a babanod rhy ifanc i wrthsefyll llawdriniaeth ond nodir eu manylion er mwyn cynnig triniaeth iddynt rhyw dro eto. Hefyd gwelwn gyflyrau nad ydynt yn wefus a thaflod hollt a'r cleifion hynny'n cael eu cynghori i ymweld ag arbenigwyr mewn meysydd amgen, ac ambell i gyflwr hollt mor astrus nes bod angen ei drin yn Dhaka pan ddaw'r arbenigwr byd-eang, Dr Sommerlad ar ei ymweliad blynyddol. Mae wyneb hollt yn hytrach na gwefus neu daflod hollt yn gyflwr gwirioneddol ddychrynllyd yng ngwir ystyr y gair ac yn ystod ein cyfod yn Rajshahi gwelsom dri ohonynt. Llwyddasom i roi llawdriniaeth i ddau ac fe gyfeirir y llall at Dr Sommerlad. Ond, yn athrist, gwelwn un neu ddau druan na ellir cynnig unrhyw fath o driniaeth iddynt oherwydd difrifoldeb diobaith eu hamrywiol gyflyrau.
Un a ddaeth â baban bach i'n gweld oedd nain a'i wyr bychan. Yn ddagreuol soniodd am ei mab a'i wraig a drigai gyda hi yn nhref Rajshahi. Pan aned y baban â'r wefus hollt, yn ei dychryn, diflannodd y fam gan adael ei newydd-anedig, ac ni fu sôn amdani fyth wedyn: 'melltith y mamau' hollt! Penderfynodd y nain fagu'r plentyn â'r holl gariad a feddai.
Y nain a'i wyr bach | Y ddau'n gadael ar ôl y driniaeth
Ni all neb ddirnad gwaith diflino'r llawfeddygon a gweddill y tím yn ystod cyfnod y 'gwersyll'. Yr Athro Salek oedd yn arwain, gyda Dr Jishu (ein cydlynydd), Dr Janaed, Dr Rupon yn lawfeddygol cynorthwyol a Dr Shalhem yr anethtegydd a phedwar o fechgyn OT (Theatr Llawdriniaethau). Y rhan fwyaf o'r amser roedd tri bwrdd llawdriniaeth ar waith a rhai o'r llawdriniaethau mwy cymhleth yn cymryd mwy na tua thair awr i'w perfformio, a'r rhai hawsaf yn cymryd awr. Ond yr hyn sydd fwyaf hynod yw'r oriau hirfaith y bu'r tím yn gweithio'n ddyddiol. Roedd y gwaith yn dechrau'n brydlon am 9.00 yb a'r cynharaf iddynt gau drws y theatr oedd 1.00 y bore canlynol. Dyma fu'r patrwm am chwe diwrnod dirwgnach!
Datblygiad o bwys yn ystod f'arhosiad y tro hwn oedd trefniadau a wnaeth Dr Jishu, ein cydlynydd ag ysbyty lleol yn Chittagong i leoli Uned BanglaCymru yno'n barhaol. Wrth i enw BanglaCymru fynd ar led yn ardal Chittagong cyfeirir cleifion ato i'r ysbyty hwn. Perfformiodd lawdriniaethau cyn gadael am Rajshshi a disgwylir y bydd cleifion hollt a llosg yn dod ato'n rheolaidd maes o law. Felly,o hyn ymlaen bydd cyfuniad o lawdriniaethau rheolaidd lleol yn Chittagong a gwersylloedd hollt mewn gwahanol ardaloedd ym Mangladesh yn digwydd.