2008

Rhan 1 – 2008

Treuliais dair wythnos ar brofiad darganfod ffeithiau parthed sefyllfa bywydau pobl gyffredin yng ngwlad trydydd byd Bangladesh ym mis Mawrth/Ebrill 2008 ar wahoddiad Dr Jishumoy Dev, meddyg teulu ifanc o Chittagong, ail brifddinas y wlad. Bangladesh, yn ôl ystadegau’r Cenhedloedd Unedig yw gwlad dlotaf Asia. Mae lefelau anllythrennedd, ofergoeliaeth, diffyg maeth, glanweithdra, gofal meddygol ac addysg yn anghyffredin o uchel. Mae cyflwr cymaint o’r tai a’r amgylchedd yn hunllefus o wael. Gwelir plant bach tua chwech oed yn gweithio’n ddyddiol, rhai ohonynt yn ddigartref ac yn cysgu ar y strydoedd. Golygfa gyffredin yw plant a phobl anabl ar y stryd yn cardota; rhai gyda’r anhwylderau a’r anffurfiadau corfforol mwyaf dychrynllyd. Nid oes gan Fangladesh wladwriaeth les i roi cynhaliaeth i’r anffodusion hyn, felly’r unig ffordd i ennill taka neu ddwy yw gorwedd ar y stryd, neu gan amlaf cael eu gollwng ar y stryd gan obeithio y bydd rhywun yn dangos ychydig o dosturi a chynnig taka neu ddwy. Golygfa gyffredin arall yw teuluoedd o blant bach yn crwydro’r dinasoedd, rhai ohonynt yn frodyr a chwiorydd dan dair oed a neb yn gofalu amdanynt, a hynny oherwydd bod y fam yn gweithio yn y ffatrïoedd gwneud dillad ar gyfer ein siopau ni yn y gorllewin. Gwelais lawer ohonynt hefyd yn crafu byw ar domennydd ysbwriel, neu’n torri cerrig a dim sôn am nag ysgol na faes chware nag unrhyw degan i’w diddanu.

images of sick children

Bachgen diffrwyth yn ymbil ar i rhywun ei helpu, Teulu o blant bach yn crwydro’r strydoedd, Merch fach a’i thraed wedi llosgi’n cardota.

Ond, nid yw tlodi bob amser yn gyfystyr â thristwch. Mae gwên barod ar wynebau cymaint o’r plant tlysion hyn, yn barod bob amser i sgwrsio ac i ryfeddu at hen ddyn croenwyn a chasglu’n heidiau i’m dilyn o stryd i stryd! Mae yna ryw bwrpas hanfodol i bob prysurdeb yno; mae yna ddyfeisgarwch fyddai’n rhyfeddu llawer ohonom sy’n byw yng nghanol y dechnoleg ddiweddaraf, a churiad cyffrous i’r holl weithgarwch di-baid a welir o awr i awr. Mae pob dinas a phentref yn ferw o ddiwydrwydd, yn gyforiog o liw ac ogleuon beraroglus a chyfoglyd.

House in Bangladesh

Ty nodweddiadol yn Chittagong

Cefais brofiadau gwerthfawr gyda Dr Ayub Ali, Athro Cynorthwyol Llawdriniaeth Blastig yn Ysbyty a Choleg Meddygol Chittagong, Bangladesh ac ysbytai eraill yn gweld gwaith ar losgiadau a gwefus a thaflod hollt. Mae llosgiadau yn beth cyffredin iawn ym Mangladesh. Oherwydd diffyg cyflenwad trydan mae cymaint o’r boblogaeth yn gorfod dibynnu ar gynnau tân i goginio, fflam i gadw’r mosgito draw a lampau olew ar gyfer goleuni. Rhai o’r problemau mwyaf yw plant bach yn syrthio i’r tanau, saris o ddefnydd synthetig sy’n cael eu gwisgo gan y merched yn mynd ar dân yn ddirybudd a dynion yn ceisio tapio i mewn i wifren drydan heb sylweddoli’r perygl.

Picture of Dr Ayub Ali

Dr Ayub Ali (chwith). Mae cyflenwad trydan yn anghyson a’r offer yn beryglus (de)

Mae’r cyflwr gwefus a thaflod hollt yn beth cyffredin yn y rhan yma o’r byd. Amcangyfrif bod tua 5,000 o blant yn cael eu geni gyda’r cyflwr hwn yn flynyddol ym Mangladesh, ac oherwydd diffyg adnoddau dim ond tua’u hanner sy’n cael eu trin. Mae cymaint o ofergoeliaeth ynghlwm â’r cyflwr – yr hen gred bod y diafol wedi meddiannu’r plant anffodus hyn. Maent yn aml yn cael eu hamddifadu o gariad, o gyfeillgarwch plant eraill ac yn tyfu i gael eu hanwybyddu a’u sbeitio. Clywais gymaint o storïau am famau’n rhedeg i ffwrdd ar ôl rhoi genedigaeth i blentyn â’r cyflwr, neu’r tad yn cefnu ar y teulu a beio’r fam gan adael y teulu heb enillion ariannol. Ond, wrth reswm, mae llawer ohonynt yn cael eu caru a’u magu’n annwyl gan eu teuluoedd, ond yn tyfu’n dioddef yn emosiynol oherwydd eu pryd a gwedd, yn gymdeithasol ac yn economaidd. Yn ystod f’amser yn Chittagong gwelais y wyrth o newid bywydau rhai o’r anffodusion hyn yn dilyn triniaethau hynod o lwyddiannus a berfformid gan rai o’r meddygol y deuthum i’w hadnabod yn ystod f’arhosiad. Cefais f’ysgogi a’m hysbrydoli.

Treuliais y rhan fwyaf o’m hamser gyda Dr Jushumoy Dev, meddyg a llawfeddyg dan hyfforddiant yn ei ganolfa iechyd, a hefyd mewn ysbytai eraill yn y ddinas. Roedd y profiadau hyn yn y feddygfa gyda Dr Jishu (Iesu) yn adlewyrchu’r holl a ddysgais ac y gwelais o gwmpas y lle. Deuai cleifion ato, y rhan fwyaf ohonynt yn dioddef o ddiffyg maeth neu anhwylderau oherwydd diffyg glanweithdra. Doedd rhai ddim yn gallu fforddio’r ychydig geiniogau oedd rhaid ei dalu i ymweld â’r feddygfa, ond roedd Dr Jishu’n barod bob amser i agor ei waled ei hun i dalu’r gost ac yn aml hefyd yn rhoi o’i boced ei hun iddynt fynd am belydr X neu driniaeth bellach. Doedd dim dewis ond gwneud yr un peth fy hun, a hynny cyn i Dr Jishu gael y cyfle i gyrraedd ei waled a chyfrannu’r ychydig o geiniogau oedd eu hangen. Roedd e’n ennill tua £20 yr wythnos a minnau’n byw’n gyfforddus ar bensiwn athro!

Dr Jishu with a patient

Dr Jishu a chlaf

Deuthum yn ffrindiau mawr gyda grwp o sosialwyr ifanc, y rhan fwyaf ohonynt yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Chittagong. Anaml iawn y caent gyfle i gwrdd â rhywun o Ewrop a phrinnach fyth oedd cael cyfle i sgwrsio a holi. Am sawl noswaith bues yn mynd i’w canolfan a chael fy holi’n ddi-ben-draw am fywyd yn y gorllewin ac yn bennaf oll am wleidyddiaeth. Yn ddiwahân, eu prif reswm am fod yn aelodau o’r blaid hon oedd er mwyn gwneud eu rhan i helpu’r tlodion. Aethpwyd â fi ar sawl taith i weld eu gwaith ymarferol yn y gymuned. Yn ystod f’amser gyda hwy daethant i wybod fod rhyw ychydig o fiwsig yn perthyn i mi, ac fe ofynnwyd i mi ddifyrru criw o blant am chwarter awr yn eu cyngerdd i ddathlu’u blwyddyn newydd oedd i ddigwydd ymhen tridiau. Cytunais i wneud hynny, ac er nad oedd modd cael gafael ar biano fe ddaethpwyd o hyd i allweddellau. Ar y noson, a minnau’n teimlo’n ddigon bregus eto oherwydd rhyw dwymyn arall a gorfod reidio wedyn ar y rickshaw mwyaf anghyfforddus gyda Dr Jishu, cyrhaeddom y theatr. Yno roedd dwy fil o bobl yn f’aros! Doedden ni ddim am ddweud wrthot ti am hyn rhag ofn i ti wrthod dod, meddai Bishu, brawd Dr Jishu ac aelod blaenllaw o’r blaid. Fodd bynnag, ar ôl chwarter awr o berfformio, fe gefais y gymeradwyaeth fwyaf a gefais erioed, hyd yn oed yn arwain Côr Godre’r Garth – ond rwy’n siwr mai tosturi oedd achos y rhan fwyaf ohono.

Ar ddiwedd fy nghyfnod ym Mangladesh a minnau’n sgwrsio gan ddiolch o galon i Jishu am y profiadau a’r gofal a gefais, fe ddywedais heb fawr feddwl, ‘Wel, os alla i wneud unrhyw beth i helpu……’ Yr ateb oedd, ‘Wnei di wir?’. A dyna oedd dechreuad BanglaCymru!

Ar ôl dychwelyd i Gymru, gofynnais i dri pherson i ymuno â mi fel ymddiriedolwyr i sefydlu elusen i ariannu llawdriniaethau gwefus / taflod hollt ym Mangladesh. Yn naturiol, Dr Jishu fyddai’r cydlynydd meddygol draw ym Mangladesh, a chanddo ef fyddai’r cyfrifoldeb o gasglu timau meddygol a llogi ysbytai ar gyfer y gwaith a ddigwydd am ryw wythnos ddwywaith dair y flwyddyn. Y nod oedd codi tua chan punt y mis ac ariannu deuddeg o lawdriniaethau yn flynyddol. Ysgrifennais at bawb ym Mhontypridd a’r cyffiniau yr oeddwn i a fy ffrindiau agos yn eu hadnabod, ac fe gefais ymateb ffafriol gan y mwyafrif. Gwahoddwyd fi i ysgolion a chapel i sgwrsio am y fenter, ac ambell i sgwrs ar y radio a’r teledu, ac o dipyn i dipyn chwyddodd y gronfa.

 

Rhan 2 – 2008

Posted on April 10, 2012 by admin

Rhan 2 – 2008

 

Roeddwn mewn cysylltiad dyddiol â Dr Jishu yn trefnu hyn a llall, ac yna, ar ôl casglu digon o arin dyma benderfynu y byddai BanglaCymru yn dechrau ar ei phriod waith ym mis Tachwedd 2008. Cysylltodd Dr Jishu â Dr AJM Salek, Dhaka, sef un o lawfeddygon mwyaf medrus ar y cyflwr ym Mangladesh, a’i wahodd e i arwain tîm meddygol cyntaf BanglaCymru. Cytunodd i wneud hynny yn ei ysbyty bach i’r tlodion yn y slymiau yn Nhaka. Penderfynwyd ar bedair llawdriniaeth ar hugain wedi’u hariannu gan FanglaCymru. Cefais innau wahoddiad ganddo yntau i fynd ar ‘Cleft Camp’ gyda fe a’i dîm meddygol; sef, mynd i ardaloedd anhygyrch y wlad i gynnig triniaeth i blant a phobl yr ardaloedd hynny. Roedd y gwersyll hwn wedi’i noddi gan fanc rhyngwladol. Roedd Dr Salek am i mi ddysgu sut y byddai BanglaCymru, rhyw ddiwrnod, yn trefnu’r math yma o ymgyrch.

DR AJM Salek picture

Dr AJM Salek

Teithiom i lawr y Ganges ar hen long i Fae Bengal ac i fyny afon arall i le o’r enw Borishal. Roedd asiant i’r tîm meddygol wedi bod yno’n barod ac wedi lledaenu’r neges am y llawdriniaethau drwy bosteri darluniadol, hysbysebion i’r ychydig allai ddarllen ac uwch-seinydd ar rickshaw o gwmpas y pentrefi. Disgwylid rhoi llawdriniaeth i 50 o blant a phobl ond erbyn diwedd ein cyfnod yno cyrhaeddodd 150! Roedd ambell un wedi cael triniaeth anfoddhaol iawn gan feddygon lleol na wyddant fawr ddim ar sut i drin y cyflwr, a llawer un arall wedi talu i gau feddygon am ddogn o ffisig hudol! Roedd ambell un ag anffurfiad wyneb mor ddychrynllyd na allwn yn fy nghalon dynnu llun ohonynt er mwyn gallu rhyfeddu dros y lluniau yn ôl yng Nghymru. Anghofiaf fyth un bachgen ifanc oedd yn gyndyn iawn i ddangos ei wyneb yn yr ymgynghoriad. Roedd wedi’i orchuddio â rhwymyn budr rownd ei ben, a’i dad yn eitha diamynedd yn ei orfodi i’w dynnu i ddatguddio’r erchylldra mwyaf. Teimlais i’r byw drosto ac er nad oedd ei anhwylder yn perthyn i’r cyflwr hollt roedd Dr Salek yn gallu ei gyfeirio at un o’i gyfoedion yn y maes plasig. Dyn na allai ddweud ‘na’ oedd Dr Salek. Roedd chwe chlaf nas gwelwyd ar y diwrnod cyntaf wedi gwneud ymdrech arbennig i ddod i Borishal yn ystod yr wythnos ac fe gynhigiodd Dr Salek arian iddynt deithio ymhellach ac i aros yn Nhaka ac y byddai BanglaCymru yn cynnig ariannu’r chwe llawdriniaeth ychwanegol yma. Cytunais yn syth. Ym Morishal bu’r tîm meddygol yn gweithio ar ddau fwrdd lawdriniaethau o fore gwyn tan tua hanner awr wedi deg bob noson am bedwar diwrnod. Mae’r profiadau a gefais yna yn rai a agorodd fy llygaid i’r pen.

Yn ôl yn y slymiau yn Nhaka dechreuwyd ar waith BanglaCymru. Cyrhaeddais Ysbyty South View, ac yno yn fy nisgwyl yr oedd banner enfawr BanglaCymru’n croesawu pawb. Yno hefyd yr oedd y rhan fwyaf o’r cleifion yn aros, yn fabanod, yn blant a phobl ifanc. Deuthum i adnabod y cleifion hyn a dod i wybod eu hanes – rhai storïau bythgofiadwy. Y cyntaf i ddod i mewn oedd merch fach o’r enw Kamrun. Roedd wedi cael triniaeth yn barod ar ei gwefus a’r tro hwn roedd angen llawdriniaeth i gau’r hollt yn ei thaflod. Roedd gyda’i thad ac yntau hefyd â hollt enfawr yn ei wefus. Gofynnais iddo a oedd awydd ganddo i gael y llawdriniaeth ei hun. Dywedodd ei fod wedi cytuno i hynny pan gafodd ei ferch ei thriniaeth gyntaf gan Dr Salek a hynny er bod ei rieni wedi dweud wrtho am beidio am mai felly yr oedd Duw eisiau iddo edrych. Aeth ymlaen i ddweud bod hynny wedi cael ei gadarnhau pan gafodd neges gan Dduw pan oedd ar fin mynd i mewn i’r theatr. Gofynnodd Dr Salek iddo beth oedd yr arwydd. Atebodd yntau mai arwydd Duw oedd y cryndod mawr a ddaeth drosto wrth gerdded tua’r theatr! Diolch fyth, roedd yn fodlon i Kamrun gael ei thriniaeth.

Picture of patient

Kamrun

Stori arall oedd am ferch ifanc ddeunaw oed ac anffurfiad wyneb difrifol ganddi. Roedd yn gweithio yn y diwydiant gwneud dillad. Pan aeth yn ôl i’w gwaith ar ôl ei hymgynghoriad gyda ni’r bore cyntaf, fe ofynnwyd iddi lle’r oedd hi wedi bod. Dywedodd y gwir, ond yna fe’i rhybuddiwyd petai’n mynd y diwrnod canlynol am y driniaeth y byddai’n colli ei gwaith. Er hyn, daeth yn ôl y diwrnod canlynol, fe gafodd ei llawdriniaeth ac fe gafodd waith gan Dr Salek yn Ysbyty South View.

Yr hanes a gyffyrddodd calon pob un ohonom oedd stori bachgen deunaw oed o’r enw Manu. Fe’i magwyd mewn ardal bellennig ym Mangladesh, ac ychydig flynyddoedd yn ôl bu farw ei fam. Ailbriododd y tad ond fe daflwyd Manu allan o’r cartref gan y fam newydd oherwydd ei bod yn grediniol fod y diafol wedi’i feddiannu. Teithiodd bellter mawr ar ei ben ei hun i Dhaka oherwydd iddo wybod bod ganddo berthnasau’n byw yno. Wedi cyrraedd ty’r perthnasau cyntaf, a churo’r drws gan egluro pwy oedd, fe gaewyd y drws yn ei wyneb. Digwyddodd yr un peth yn yr ail dy. Cafodd waith yn gofalu am giatiau bloc o fflatiau yn y ddinas ac yno wrth y giatiau roedd yn byw a chysgu. Un dydd fe welodd un o breswylwyr y fflatiau hysbyseb BanglaCymru yn y papur lleol. Daeth â Manu i’r ysbyty ar y bore cyntaf ac fe gafodd ei ddewis i gael y driniaeth. Er yr holl ddewrder a dygnwch oedd wedi ei ddangos yn ei fywyd, efo oedd y mwyaf nerfus o bawb a ddaeth. Ar ôl iddo ddeffro yn dilyn ei lawdriniaeth daeth y dyn o’r fflatiau i’w weld ac i’m gweld innau i ddiolch i mi. Rhoddais innau fis pitw o gyflog iddo o £15 er mwyn iddo gael lle glân i aros ynddo a chael gorffwys cyn ailddechrau er ei waith yn dilyn y lawdriniaeth. Bedwar diwrnod wedyn daeth Manu yn ôl i gael tynnu’i bwythau. Roedd mor nerfus gyda’i wefusau’n crynu na allai’r meddyg wneud y dasg. Gofynnodd Manu i mi ddod i ddal ei law! Ar ôl tynnu’r pwythau diolchodd i mi eto gan ofyn i mi weddïo drosto. Ymhen tridiau wedyn cefais neges gan ddyn y fflatiau yn dweud fod Manu wedi diflannu! Ond mae diwedd hapus i’r stori. Ffoniodd Manu’r dyn a dweud wrtho ei fod wedi ffonio’i dad i roi’r newyddion iddo sef bod yr aflwydd wedi ei adael a’i fod, erbyn hyn yn normal! Ni allai’r tad ei gredu, ac oherwydd ei amheuon a hefyd ei chwilfrydedd fe wahoddodd ei fab yn ôl adref. Defnyddiodd fy mhymtheg punt i deithio’n ôl, ac fe’i croesawyd yn ôl wrth i bawb ryfeddu at ei wyneb newydd, ac fe drefnodd ei dad ystafell iddo fyw yn ôl yn ei gynefin. Mae’n byw erbyn hyn yn ôl yn ei filltir sgwâr yn wr ifanc cyffredin a gwaith a dyfodol ganddo. Er na welaf Manu fyth eto nis anghofiaf e tra fyddaf fyw.

Picture of patient

Manu cyn a diwrnod ar ôl y llawdriniaeth

Yn ôl yn Ysbyty South View bu prysurdeb mawr yn y theatr ar ddau fwrdd llawdriniaethau yn ystod wythnos BanglaCymru. Roeddwn i mewn ac allan o’r theatr yn dyst i’r mwyafrif o’r llawdriniaethau ac yn ceisio rhoi cysur i’r plant wrthynt ddod i mewn. Anghofiaf fyth ambell un bach yn dod i mewn fel petai’n mynd i ffair, gyda gwên ar ei wyneb, yn neidio’n awchus i’r bwrdd llawdriniaeth gan edrych ar y nodwydd yn mynd i gefn ei law i ddechrau ar y gwaith o’i gael i gysgu. Yr hyn oedd fwyaf cyffrous oedd eu gweld ar ôl y llawdriniaeth. Er bod eu gwefusau’n chwyddedig ac yn llawn pwythau roedd y canlyniadau’n syfrdanol. Roeddwn yn llawn balchder bod criw o Gymry wedi bod yn gyfrifol am newid bywydau’r trueiniaid hyn, a hynny dim ond ar ôl dwy neu dair awr o waith soffistigedig tîm meddygol BanglaCymru a swm pitw o gan punt gan fy nghydwladwyr! Yr eisin ar y gacen wedyn oedd gweld y gwefusau’n dechrau gwenu wrth iddyn nhw i gyd gael baner y ddraig goch ar ddiwrnod tynny’r pwythau oedd ddim ond pedwar diwrnod ar ôl y lawdriniaeth.

Ond, roedd siomedigaethau hefyd. Un ohonynt oedd ambell fam yn dod â’u babanod am lawdriniaeth heb wir sylweddoli bod y plant yn llwgu, a rhai ar fin marw am nad oeddent yn gallu sugno unrhyw faeth. Ond roedd cyngor meddygol ar gael er mwyn dysgu’r fam, un ohonynt ond tair ar ddeg oed sut i fynd ati i gryfhau’r plentyn dros gyfnod fel ei bod yn bosibl cynnig llawdriniaeth yn y dyfodol. Doedd neb yn cael ei wrthod a chofnod manwl yn cael ei wneud o bob claf oedd i gael llawdriniaeth yn y dyfodol. Siomedigaeth arall oedd gweld y dadrithiad ar wyneb mam i ddau fachgen bach a aned heb drwynau yn gorfod gadael ar ôl clywed nad oedd modd cynnig gwellhad iddynt. Dyma’r unig dro i mi weld Dr Salek heb ddewis ond dweud ‘na’ a’r un dadrithiad ar ei wyneb yntau. Y drydedd siomedigaeth a gefais oedd sylweddoli, ar ôl ymbil â’r banc i ryddhau’r £2,400 a drosglwyddais yn electronig cyn gadael Cymru, nad oedd popeth yn iawn! Mae problemau parthed terfysgaeth yn y wlad a rhai mudiadau anghyfreithlon yn anfon arian yn enw mudiadau dyngarol. Treuliais amser ac egni yn eu perswadio bod BanglaCymru yn elusen ddilys. Llwyddais, ond och, dim ond tua £2,050 ddaeth i law. Bai’r bunt oedd hynny – roedd y dibrisiant diweddar wedi cael effaith andwyol ar y coffrau wrth drosglwyddo o un arian i’r llall. Ond, daw dydd, rwy’n siwr pan ddaw normalrwydd economaidd i arglwyddiaethu eto ac y bydd y bunt yn werth llawer mwy!

Ar ôl dychwelyd i Gymru cyrhaeddwyd carreg filltir newydd a mwy o newyddion da. Y garreg filltir bwysicaf, wrth gwrs oedd bod BanglaCymru wedi bod yn weithredol ac wedi newid bywydau deg person ar hugain draw ym Mangladesh. Carreg filltir arall oedd cyrraedd y swm misol o £500, sef cyfraniadau hael cyfranogwyr BanglaCymru. Cyrhaeddodd llawer o arian o’m pentref genedigol, sef Trefor yn Llyn, ysgolion lleol, swm hynod o anrhydeddus gêm griced noddedig tîm Clwb y Bont a’r Golbetrotters, a’r newyddion bod Capel Bethlehem, Gwaelod y Garth wedi mabwysiadu BanglaCymru fel elusen y flwyddyn. Ie, ac elusen yw hi erbyn hyn : llwyddias i’w chofrestru’n swyddogol gyda’r Comisiwn Elusennau. Felly, i fyny bo’r nod!