Mae'r cydlynydd meddygol yn gallu cael y telerau ariannol gorau wrth drefnu'r llawdriniaethau. Fe gyst pob llawdriniaeth ond tua 100 GBP (Pan fo'r bunt yn werth o leiaf 130 takas). Nid oes dime goch yn mynd ar weinyddu, a'r unig gost sydd gan yr elusen yw cost bancio a chynnal y wefan hon. Dewch, rhowch Gymru ar fap Asia a chefnogwch ein hymdrechion i roi bywyd newydd i'r trueiniaid hyn.